Yng Ngholeg Cambria, rydym yn gweithredu ymagwedd ragweithiol i iechyd a lles. Mae ystod eang o weithdai wedi’u cynllunio trwy gydol y flwyddyn academaidd i helpu a chefnogi staff a myfyrwyr.
Rydym yn gobeithio annog pawb i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Ein nod yw:
- Hybu ymwybyddiaeth
- Gwella lles
- Cefnogi ac annog staff a myfyrwyr i fabwysiadu a chynnal ymddygiadau iach
Byw’n dda, gweithio’n dda!
![](https://web.cambria.ac.uk/healthandwellbeing/wp-content/uploads/sites/5/2019/07/Health-and-wellbeing-symbol-updated-07.png)