Croeso i dudalen Coleg Cambria am wybodaeth iechyd meddwl. 

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw cefnogi unigolion yn weithredol a’u cyfeirio i gael gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol.

Cymorthyddion Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae Cymorthyddion Cyntaf Iechyd Meddwl yn bwynt cyswllt cyntaf os ydych chi, neu rywun rydych chi’n poeni amdanyn nhw, yn profi problem iechyd meddwl neu ofid emosiynol. Nid ydyn nhw’n therapyddion nac yn seiciatryddion, ond mae nhw’n gallu rhoi cefnogaeth gychwynnol a’ch cyfeirio at gymorth priodol petai angen hynny. 

Mae digonedd o wahanol gymorth ar gael, a gall Cymhorthydd Cyntaf Iechyd Meddwl eich helpu i gael gafael arnynt. Dyma fanylion Cymorthyddio Cyntaf Iechyd Meddwl Coleg Cambria:

Dewiswch eich
Cymorthyddion Cyntaf Iechyd Meddwl

Ymwybyddiaeth Ofalgar 

Ar ein safle Llaneurgain, mae ein cydweithiwr Jaqui John yn cynnal clwb ymwybyddiaeth ofalgar bob wythnos ar ddydd Iau am 4pm.  Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Jacqui drwy anfon e-bost ati hi

Jacqui.John@Cambria.ac.uk.

 

Llyfrau ar Bresgripsiwn

Yn ein Llyfrgelloedd, mae gennym nifer o “lyfrau ar bresgripsiwn”. 

Mae’r llyfrau wedi’u dewis gan arbenigwyr iechyd a phobl sy’n byw â’r cyflyrau sy’n cael eu trafod.

Mae llawer o lyfrau’n trafod iechyd meddwl ac yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ymdrin â theimladau neu brofiadau anodd.

Mae rhai llyfru’n cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gydag anghenion iechyd meddwl, neu gan bobl sy’n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddwl hefyd. 

Gall staff a myfyrwyr fenthyg y llyfrau hyn.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae gan NHS Choices Moodzone nifer o fideos defnyddiol

 

Cymorth Iechyd Galwedigaethol a Chwnsela i cydweithwyr

 

Lle bo cydweithwyr yn teimlo y byddent yn cael budd o gefnogaeth cwnsela, mae’r coleg yn defnyddio gwasanaethau cwnselwyr proffesiynol, yn aml gyda rhestr aros fyrrach nag y GIG ar hyn o bryd, sydd felly’n helpu gydag ymyrraeth gynnar. 

Gellir trefnu apwyntiadau drwy Ymgynghorydd AD eich maes.

Mae Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol ar gael i gefnogi gweithwyr. 

Mae timau iechyd galwedigaethol yn helpu cadw pobl yn iach yn y gwaith – yn gorfforol ac yn feddyliol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd ac yn teimlo y byddech yn cael budd o atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol, siaradwch â’ch Ymgynghorydd AD.