Mae Coleg Cambria yn deall pwysigrwydd dewis y ffordd gorau o fyw i gynorthwyo iechyd a lles cyffredinol.
Gyda hyn mewn golwg, bydd y coleg yn darparu deunydd hyrwyddol ac addysgiadol ynghyd â sgyrsiau a digwyddiadau i arwain ein staff a’n myfyrwyr at y llwybr cywir i wneud y penderfyniadau iawn.
Ni waeth pa mor fawr neu fach, mae gwneud y dewisiadau cywir
am ffordd o fyw yn gallu cael effaith cadarnhaol a hirhoedlog
ar iechyd a lles cyffredinol.

Meysydd y gallwn eich cefnogi gyda nhw
- Deiet
- Cwsg
- Alcohol
- Ysmygu
- Gweithgarwch corfforol
- Ymwybyddiaeth ofalgar
- Cydbwysedd bywyd a gwaith
- Gofalu am eich corff

Ym mhob llyfrgell, fe welwch arddangosfa wybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am nifer o bynciau dewisiadau ffordd o fyw a llyfrau/cylchgronau i’ch cynorthwyo chi ar eich taith.
Gofynnwch i aelod o staff os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
