Yng Ngholeg Cambria, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon am ddim i fyfyrwyr a staff i’w galluogi i fod yn heini yn ystod eu hamser yn gweithio neu’n astudio yn y coleg.

Rydym yn deall pwysigrwydd cadwi’n heini yn enwedig ar ôl bod yn eistedd am y rhan fwyaf o’r diwrnod yn ystod gwersi a gwaith.

Mae’r gweithgareddau mae Coleg Cambria yn cynnig am ddim yn cynnwys:

    • Troelli
    • Pilates
    • Ioga
    • Badminton
    • Tai chi
    • Hyfforddiant cryfder

a llawer rhagor

Ewch i’n Tudalen Cambria Heini

Dyma’r rhaglen soffa i 5km i’r rhai ohonoch sy’n dymuno cofrestru

couch to 5k poster

Llysfasi

Campfa y gall staff ei defnyddio drwy’r dydd, wedi’i lleoli ger y Ffreutur. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r ystafell hefyd, ond rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan staff a chael sesiwn ymsefydlu yn gyntaf.

Mae yna ardal cawell, lle gallwch chwarae aml-chwaraeon a tennis bwrdd yn yr hen floc. Gellir mynd ag offer o’r llyfrgell drwy lofnodi amdanynt.

Gall staff gymryd seibiant drwy gerdded y llwybr cylchol o’r coleg.

Llaneurgan

Gellir defnyddio’r lawnt flaen i chwarae pêl-droed a gemau yn ystod amser cinio a chyfnodau rhydd. Mae tennis bwrdd ar gael yn yr ystafell gyffredin.

Teithiau cerdded tirluniedig hardd o amgylch y gerddi.

Ffordd y Bers

Mae gan y myfyrwyr ardal cawell lle gallant chwarae aml-chwaraeon.

Mae yna fyrddau pŵl yn y ffreutur.

Gellir defnyddio’r ganolfan arloesi i gynnal dosbarthiadau ar ôl coleg neu yn ystod amser cinio. Mae yna offer ffitrwydd yn y cypyrddau storio.

Mae gan y coleg hefyd ostyngiadau corfforaethol ar gyfer Lifestyle Fitness, Brio Leisure, Pure Gym and Freedom Leisure. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hwb buddiannau.

Glannau Dyfrdwy

Mae yna ystafell ffitrwydd yn G52 lle gall staff a myfyrwyr chwarae tennis bwrdd, hyfforddiant tyrbo, cylchau hwla a chwblhau sesiynau wedi’u recordio drwy ddefnyddio’r teledu.

Mae gan Lannau Dyfrdwy hefyd drac athletau dan do ac awyr agored y gall staff a myfyrwyr ei archebu i’w ddefnyddio yn ystod oriau coleg am ddim. Archebwch drwy anfon e-bost at: donna.welsh@web.cambria.ac.uk

Mae’r neuadd chwaraeon ar gael yn ystod amser cinio a rhwng 4pm a 5pm ar gyfer sesiynau aml-chwaraeon. Mae gan Lifestyle Fitness gampfa yng Ngholeg Cambria am £17.99 y mis i staff ac £18.99 y mis i fyfyrwyr.

Mae’r safle yn hanner milltir i gerdded o’i gwmpas, sy’n gwneud cylchdaith dda i gerdded o’i chwmpas yn ystod amser egwyl neu amser cinio.

Iâl

Mae yna gamfa tecno newydd o fewn yr adeilad newydd sy’n rhad ac am ddim i’r holl staff a myfyrwyr ar adegau penodedig, anfonwch e-bost at donna.welsh@web.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich sesiwn ymsefydlu.

Mae yna stiwdio sbinio ac ystafell Pilates/Ioga Egnïol ar gael i’w harchebu.

Mae’r neuadd chwaraeon ar gael yn ystod amser cinio a 4pm tan 5pm ar gyfer sesiynau aml-chwaraeon. Mae gan Ffitrwydd Ffordd o Fyw gampfa yng Ngholeg Cambria ac mae ganddi gyfraddau o £17.99 y mis a chyfradd myfyrwyr o £18.99 y mis.

Buddion gweithgareddau corfforol

  • Helpu atal diabetes math 2
  • Cynorthwyo atal clefyd Parkinson
  • Lleihau’r risg o gael canser a chlefydau’r galon
  • Gwella iechyd a hwyliau yn ystod beichiogrwydd
  • Cynorthwyo rheoli pwysau mewn plant ac oedolion
  • Gwella dwysedd esgyrn ac atal osteoporosis
  • Helpu gwella perfformiad dysgu a meddyliol
  • Effeithiol wrth leihau straen, gorbryder ac isleder

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell 150  munud o ymarfer corff yr wythnos i oedolion a 60 munud y diwrnod i blant.

Yr adnodd eithaf i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i integreiddio sgyrsiau gweithgaredd corfforol i ofal clinigol arferol

Mae gan y pecyn Offer hwn wybodaeth i gefnogi ein meddwl, ein corff a’n henaid, yn ôl yr angen. Cadw cydbwysedd ynoch chi’ch hun

Mae gan y pecyn Offer hwn wybodaeth i gefnogi ein meddwl, ein corff a’n henaid, yn ôl yr angen. Cadw cydbwysedd ynoch chi’ch hun